Nesau er gwae rhai euog
Nesâu er gwae'r annuwiol

(Ystyriaethau am y Farn ddiweddaf)
Nesau, er er gwae rhai euog,
    mae 'r dyd'd cymmylog mawr,
Cyfodir oll y meirw,
    sy'n bridd a lludw, o'r llawr;
  Trŷ'r oen yn llew dychrynllyd,
      pan ddelo'r tanllyd ddydd,
  A thirion Faban Bethl'em
      yn Farnwr mawr a fydd!

Canfyddir ar ei orsedd
    mewn mawiedd wir Fâb Mair,
Dau deulu'r byd didolir,
    dewisir â dau air:
  I fynu daw'r cyfiawnion,
      wrth wrando'n dirion - dewch!
  Rhaid i'r rhai diras cyndyn
      Oll deulu gydag - ewch!

Ar ddiwrnod mawr ofnadwy
    a dychrynadwy'n Iôr
Bydd daear yn ymrwygo,
    a mellt yu lleibio'r môr;
  Y sêr, fel ffigys irion,
      yn cwympo i'r eigion mawr,
  A'r dyn annuwiol ynfyd
      yn welw ei bryd yn awr!

Yr holl uchelfrig dyrau,
    a'r llysoedd têg eu gwawr,
A themlau'r difrifolion,
    ïe'r feithgron ddaear fawr;
  Ac oll a'i hetifeddant
      a doddant mewn un dydd;
  Mwy na ffug-adail breuddwyd,
      un rhith o'u hôl ni bydd!
Corph y Gaingc 1810
- - - - -
(Dydd y Farn)
1,(2),4;  1,3,4.
Nesâu, er gwae'r annuwiol,
  Mae'r dydd diweddaf mawr;
Nesâu, er gwynfyd bythol
  I'r cyfiawn, mae bob awr:
I'r naill yn gyfiawn Farnwr,
  Pan ddelo'r tanllyd ddydd,
I'r llall yn llon Waredwr,
  Yr Oen fu farw fydd.

Y dydd y gwelir Iesu
  Ar orsedd fawr y nen,
Yr haul ni rydd oleuni,
  Fel gwaed â'r lleuad wen:
Holl ser y nef a syrthiant
  Fel mellt i'r eigion mawr;
Y môr ai donnau ruant,
  Ar dân bydd daear lawr.

Bydd myrdd o ryfeddodau
  Ar doriad bore wawr,
Pan ddelo plant y tonau
  Yn iach, o'r cystudd mawr,
Oll yn eu gynau gwynion,
  Ac ar eu newid wedd,
Yn debyg i eu HARGLWYDD
  Yn dôd i'r lan o'r bedd.

O Iesu, gwrando'n gweddi
  Tra paro dydd dy ras;
Rho'th wir adnabod ini
  Cyn llosgo'n lamp i maes:
Rho lwyr faddeuant pechod,
  Dy YSPRYD, a dy hedd;
Fel codom i'th gyfarfod
  Yn llawen iawn o'r bedd.
1: Corph y Gaingc 1810
2: Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831
3: J Gwyndud Jones 1831-1926
4: Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831

Tonau [7676D]:
Bryniau Cassia (Y Salmydd 1892)
Caerllyngoed (Stephen Llwyd 1794-1854)

gwelir: Bydd myrdd o ryfeddodau

(Considerations about the last Judgment)
Nearing, for the woe of guilty ones,
    is the great cloudy day,
To be raised are all the dead, who are
    in soil and ashes, from the ground;
  The lamb shall turn into a terrible lion,
      when the fiery day comes,
  And the tender Baby of Bethlehem
      a great Judge shall be!

To be found on his throne
    in majesty is the true Son of Mary,
Two families of the world are to be separated,
    chosen with two words:
  Up shall come the righteous,
      on hearing tenderly - come!
  The graceless, stubborn ones must
      all leave with - go!

On the great, terrible and fearsome
    day of the Lord
The earth shall rend,
    and lightening swallow the sea;
  The stars, like fresh figs,
      falling into the great ocean,
  And the ungodly, foolish
      seeing his time now!

All the haughty towers,
    and the courts of fair brightness,
And the temples of the solemn ones,
    yes, the vast round earth;
  And all they shall inherit
      and put in one day;
  Any more than a folly of a dream,
      not one illusion shall remain.
 
- - - - -
(The day of judgment)
 
Nearing, for the woe of the ungodly,
  Is the great last day;
Nearing, for everlasting blessedness
  For the righteous, it is every hour:
To the one as righteous Judge,
  When ever the fiery day come,
To the other as cheerful Deliverer,
  The Lamb who was dead shall be.

The day Jesus is to be seen
  On the great throne of the sky,
The sun will not give light,
  Like blood will go the white moon:
All the stars of heaven shall fall
  Like lightning into the great ocean;
The sea and its waves shall roar,
  On fire shall be the earth below.

There will be a myriad of wonders
  At the break of the morrow's dawn,
When the children of the waves come
  Saved from the great tribulation,
All in their white robes
  And transfigured,
Like unto their LORD
  Coming up from the grave.

O Jesus, listen to our prayer
  While ever the day of thy grace endures;
Grant us true knowledge of thee
  Before the lamp burns out:
Grant complete forgiveness of sin,
  Thy SPIRIT, and thy peace;
Thus shall we rise to meet thee
  Very joyfully from the grave.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~